1
– Eglurhad o'r ddyletswydd i gydweithredu a chyrff
atebol
Gan nad yw Byrddau Partneriaeth
Rhanbarthol yn endidau cyfreithiol ynddynt eu hunain nid oes modd
gosod dyletswyddau cyfreithiol arnynt ac felly ni ellir eu dwyn i
gyfrif yn gyfreithiol. Felly, mae'r ddyletswydd i
gydweithredu’n perthyn yn bendant i Awdurdodau Lleol a
Byrddau Iechyd Lleol. Mae gwaith wedi'i gwblhau i sicrhau bod y
canllawiau Rhan 9 diwygiedig yn mynegi'n gliriach pwy sydd â
dyletswydd i gydweithredu, a rôl a swyddogaeth y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol i gefnogi Awdurdodau Lleol a Byrddau
Iechyd i arfer eu dyletswydd gyfreithiol i gydweithredu. O ystyried
y ddyletswydd gyfreithiol i gydweithredu ac aelodaeth benodol y
Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, dylid eu hystyried fel estyniad
i'r cyrff statudol hyn yn hytrach na sefydliad annibynnol ar
wahân.
2
– Trefniadau Craffu effeithiol
Mae'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi
archwilio prosesau craffu effeithiol o sawl agwedd
wahanol;
·
Trefniadau craffu Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol
mewn perthynas ag arfer eu dyletswydd eu hunain i
gydweithredu – Bydd canllawiau newydd yn cynnwys
disgwyliad bod partneriaid statudol yn sicrhau bod eu prosesau
craffu mewnol eu hunain yn ystyried i ba raddau maen nhw'n cyflawni
eu dyletswydd eu hunain i gydweithredu
·
Craffu ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel ffordd
effeithiol o gefnogi Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol i
arfer eu dyletswydd i gydweithredu – Bydd
canllawiau newydd yn cynnwys y gwahoddiad i Awdurdodau Lleol a
Byrddau Iechyd Lleol ystyried datblygu trefniadau craffu
rhanbarthol gyda chyfrifoldebau dirprwyedig er mwyn darparu proses
graffu symlach ar gyfer gwaith rhanbarthol.
·
Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn craffu ar
effeithiolrwydd eu trefniadau cynllunio a chyflawni eu hunain
– bydd canllawiau newydd yn cynnwys y gofyniad i
Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ymgymryd â gweithgarwch
hunanasesu a gwella rheolaidd. Hefyd, mae gwaith yn mynd rhagddo i
gytuno ar gyfraniad posibl AGC ac AGIC at driongli tystiolaeth i
gefnogi prosesau hunanasesu
3
– Cydbwyso atebolrwydd
ledled Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol
Er bod y ddyletswydd i
gydweithredu’n cael ei gosod ar Awdurdodau Lleol a Byrddau
Iechyd Lleol yn yr un modd, mae'n ymddangos bod yna anghydbwysedd
gan fod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cael ei enwi fel
y Swyddog Gweithredol atebol mewn Awdurdodau Lleol, ond nid oes
unrhyw unigolyn cyfatebol mewn Byrddau Iechyd Lleol ar hyn o bryd.
Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu trefniadau llywodraethu a
deddfwriaethol presennol er mwyn gosod gofyniad ar Fyrddau Iechyd
Lleol i nodi Cyfarwyddwr Gweithredol penodol i fod yn swyddog
atebol ar ran y Bwrdd ar gyfer cyflawni yn erbyn ei ddyletswydd i
gydweithredu.
Mae'r trefniadau atebolrwydd presennol ar lefel
Llywodraeth Cymru’n cynnwys;
·
cyfarfodydd chwarterol rhwng
Gweinidogion a Chadeiryddion ac Arweinwyr Byrddau Partneriaeth
Rhanbarthol
·
adroddiadau chwarterol ar
wariant y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
·
cyfarfodydd Rheolwr
Cysylltiadau rheolaidd rhwng arweinwyr/timau Byrddau Partneriaeth
Rhanbarthol a Swyddogion Llywodraeth Cymru
·
cyflwyno adroddiadau blynyddol
i Weinidogion ar gynnydd yn fwy cyffredinol tuag at gyflawni eu
Cynlluniau Ardal.